Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 1 Mai 2019
Amser:
09. -
12.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5496
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Llyr Gruffydd AC (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AC Alun Davies AC Neil Hamilton AC Mike Hedges AC Rhianon Passmore AC Nick Ramsay AC |
Tystion: |
Gerald Holtham Dr Stanimira Milcheva, Coleg Prifysgol Llundain Peter Reekie, Scottish Futures Trust |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Leanne Hatcher (Dirprwy Glerc) Roger Ford (Ymchwilydd) Christian Tipples (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys ar ôl eu llythyrau'n gwrthod gwahoddiad y Pwyllgor i roi tystiolaeth i'r ymchwiliad i ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru.
3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gerald Holtham, Athro Hodge mewn Economi Ranbarthol a Dr Stanimira Milcheva, Athro Cyswllt mewn Eiddo Tirol a Chyllid Seilwaith, Coleg Prifysgol Llundain ar ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru.
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Peter Reekie, Prif Weithredwr, Scottish Futures Trust, ar ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
7.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull ar gyfer craffu ar gyllideb ddrafft 2020-21 Llywodraeth Cymru, a chytuno i wneud y canlynol:
· cynnal digwyddiad rhanddeiliaid yn y canolbarth ar 27 Mehefin 2019;
· ysgrifennu at bwyllgorau polisi eraill, gan nodi nifer o themâu ar gyfer gwaith craffu;
· cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar ddisgwyliadau rhanddeiliaid o gyllideb ddrafft 2020-21 i lywio gwaith craffu'r Pwyllgor, sydd i'w wneud dros doriad yr haf;
· rhoi cyngor arbenigol mewn perthynas â'r polisi treth.
8.1 Nododd y Pwyllgor gais yr Ombwdsmon am gyllideb atodol a chytunodd i'w drafod ymhellach pan gyflwynir y cynnig cyllideb atodol.